Dangos eich cynnydd gydag achrediad 360 degree safe
Wrth i chi symud ymlaen drwy adnodd hunanadolygu 360 degree safe, byddwch chi’n gallu ennill tystysgrifau a dyfarniadau i ddangos eich cynnydd. Dyma ddisgrifiad o’r tystysgrifau a’r dyfarniadau sydd ar gael, a sut gallwch chi eu hennill.
Tystysgrif Ymrwymiad
Mae ysgolion yn gallu ymrwymo i ddefnyddio adnodd hunanadolygu 360 degree safe fel ffordd o ystyried arferion gorau a rhoi camau ar waith i wella darpariaeth diogelwch ar-lein yr ysgol.
Ar ôl cofrestru i gymryd rhan ym mhroses 360 degree safe, bydd yr ysgol yn gallu llwytho i lawr y Dystysgrif Ymrwymiad i Ddiogelwch Ar-lein, drwy glicio’r logo ar y tudalennau adolygu.
Dydy’r dystysgrif ddim yn awgrymu bod ysgol yn “Ddiogel Ar-lein”. Mae’n dangos eich bod chi wedi ymrwymo i adolygu’ch arferion drwy ddefnyddio’r adnodd ar-lein.
Tystysgrif Cynnydd
Mae ysgolion yn gallu cael cydnabyddiaeth am eu hymrwymiad i ddatblygu darpariaeth Diogelwch Ar-lein, fel y gwelir drwy eu defnydd o adnodd hunanadolygu 360 degree safe.
I gael Tystysgrif Cynnydd ar gyfer Diogelwch Ar-lein, bydd gofyn bod yr ysgol wedi cyflawni o leiaf ddwy o bedair elfen 360 degree safe. Mae’n bosib llwytho’r dystysgrif i lawr drwy glicio’r logo ar y tudalennau adolygu.
Dydy’r Dystysgrif Cynnydd ddim yn awgrymu bod ysgol yn “Ddiogel Ar-lein”. Mae’n dangos bod yr ysgol wedi datgan, ei hun, ei bod wedi cyrraedd lefel sylfaenol o leiaf o ran arferion a pholisïau diogelwch ar-lein.
Marc Diogelwch Ar-lein
Mae ysgolion sy’n gallu dangos arferion da yn eu gweithdrefnau a’u polisïau Diogelwch Ar-lein yn gallu gwneud cais am y Marc Diogelwch Ar-lein.
I wneud cais am y dyfarniad, mae’n rhaid i’r ysgol gyrraedd y lefel meincnod ar gyfer holl agweddau’r adnodd, ac ychwanegu sylwadau ar bob agwedd yn yr adolygiad. Rhaid i’r sylwadau hynny ddisgrifio darpariaeth pob agwedd, a’r ffordd mae’n bodloni’r datganiad lefel meincnod. Ar ôl gwneud hynny, dylai’r ysgol wneud cais ar-lein i SWGfL.
Ar ôl i’r cais gael ei gyflwyno, bydd yr Asesydd yn bwrw golwg dros adnodd hunanadolygu 360 degree safe i weld a yw’n ymddangos bod yr ysgol (drwy’r sylwadau ar bob agwedd) wedi cyrraedd y lefelau meincnod, ac yn barod i gael ymweliad gan Asesydd. Bydd Asesydd yn ymweld â’r ysgol am hanner diwrnod, a bydd yr ysgol yn cael gwybod ar ddiwedd yr ymweliad a yw wedi llwyddo.