1. Trosolwg
  2. Newyddion
  3. Diweddariad Medi 2026

Diweddariadau i Adnodd Hunanadolygu Diogelwch Ar-lein 360 safe Cymru ym mis Medi 2026

Mae'r adnodd hunan-adolygu diogelwch ar-lein 360 ​​safe Cymru wedi cael diweddariadau sylweddol i wneud yr adnodd yn haws i ysgolion ei ddefnyddio, er mwyn adlewyrchu diweddariadau diweddar i ganllawiau cenedlaethol a'r datblygiadau parhaus yn y defnydd o dechnolegau digidol. Bydd y diweddariadau'n fyw ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2026/27 ym mis Medi 2026.

Yn gryno, dyma’r newidiadau yn adnodd 360 safe Cymru:

  • Mae’r agweddau yn yr adnodd wedi cael eu lleihau o 21 i 18.
  • Mae’r agweddau canlynol wedi’u dileu, ond mae eu cynnwys wedi’u hychwanegu at agweddau eraill: Safonau Proffesiynol; Cyfraniad Dysgwyr; Asiantaethau a’r Cyfryngau Cymdeithasol
  • Mae agwedd Seiberddiogelwch newydd (bydd y lefel o’r agwedd Diogelwch Technegol yn cael ei chopïo i’r agwedd newydd, ond bydd y sylwadau’n wag)
  • Mae’r holl ddatganiadau lefel a chamau gwella wedi cael eu diweddaru i’w gwneud yn fwy eglur ac i adlewyrchu’r canllawiau cenedlaethol a’r datblygiadau yn y defnydd o dechnolegau digidol.

Trosolwg

Allwedd: ● Wedi’i ddiweddaru ↰ Wedi’i ailenwi a’i ddiweddaru ✦ Newydd ⊘ Wedi’i ddileu

LLINYNAGWEDD GYFREDOL (AWST 2026) AGWEDD NEWYDD (MEDI 2026 YMLAEN)NEWID
POLISI AC ARWEINYDDIAETH
CyfrifoldebauCyfrifoldebau Diogelwch Ar-leinCyfrifoldebau Diogelwch Ar-lein● Wedi’i ddiweddaru
 Grŵp Diogelwch Ar-leinGrŵp Diogelwch Ar-lein● Wedi’i ddiweddaru
 Safonau Proffesiynol
wedi’i gyfuno â Ddefnydd Derbyniol
⊘ Wedi’i ddileu
PolisiPolisi Diogelwch Ar-leinPolisi Diogelwch Ar-lein● Wedi’i ddiweddaru
 Defnydd DerbyniolDefnydd Derbyniol● Wedi’i ddiweddaru
 Adrodd ac YmatebAdrodd ac Ymateb● Wedi’i ddiweddaru
ADDYSG
DysgwyrAddysg Diogelwch Ar-leinAddysg Diogelwch Ar-lein● Wedi’i ddiweddaru
 Cyfraniad Dysgwyr
wedi’i gyfuno â’r agweddau Addysg a Chanlyniadau
⊘ Wedi’i ddileu
Oedolion ac AsiantaethauStaffStaff● Wedi’i ddiweddaru
 LlywodraethwyrLlywodraethwyr● Wedi’i ddiweddaru
 TeuluoeddRhanddeiliaid Allanol↰ Wedi’i ailenwi a’i ddiweddaru
 Asiantaethau
wedi’i gyfuno â Rhanddeiliaid Allanol
⊘ Wedi’i ddileu
TECHNOLEG
Hidlo’r We a Diogelu Ar-leinHidloHidlo’r We↰ Wedi’i ailenwi a’i ddiweddaru
 MonitroDiogelu Ar-lein↰ Wedi’i ailenwi a’i ddiweddaru
DiogelwchDiogelwch TechnegolDiogelwch Technegol● Wedi’i ddiweddaru
 Seiberddiogelwch✦ Newydd
 Diogelwch DataDiogelwch Data● Wedi’i ddiweddaru
YmarferRheoli DyfeisiauRheoli Dyfeisiau● Wedi’i ddiweddaru
 Cyfryngau Cymdeithasol
wedi’i gyfuno â Defnydd Derbyniol, Cyfathrebu Cyhoeddus Ar-lein ac Addysg
⊘ Wedi’i ddileu
 Delweddau Digidol a FideosCynnwys Digidol↰ Wedi’i ailenwi a’i ddiweddaru
 Cyhoeddi Ar-leinCyfathrebu Cyhoeddus Ar-lein↰ Wedi’i ailenwi a’i ddiweddaru
CANLYNIADAU
 Effaith Polisi ac Arfer Diogelwch Ar-leinEffaith Polisi ac Arfer Diogelwch Ar-lein● Wedi’i ddiweddaru

Bydd data’r ysgol yn cael ei fudo i’r adnodd wedi’i ddiweddaru.

Er bod cynnwys yr adnodd wedi cael ei ddiweddaru’n sylweddol, ychydig iawn o newid sydd i lefel y ddarpariaeth ddisgwyliedig sydd ei hangen ar gyfer pob lefel. Rydyn ni’n argymell bod ysgolion yn ailedrych ar eu hadolygiadau 360 safe Cymru i sicrhau bod eu darpariaeth yn parhau i fodloni safonau cenedlaethol a chanllawiau perthnasol. Rydyn ni hefyd yn awgrymu eich bod yn ychwanegu sylwebaeth sy’n benodol i’r ysgol at yr agwedd Seiberddiogelwch newydd.

Templedi Polisi Diogelwch Ar-lein

Mae’r templedi polisi diogelwch ar-lein yn Cadw’n Ddiogel Ar-lein ar Hwb wedi cael eu diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau yn adnodd 360 safe Cymru ac i’w gwneud yn haws eu defnyddio. Dyma’r prif newidiadau:

  • Mae’r templedi polisi wedi cael eu symleiddio ac maent yn fyrrach o lawer erbyn hyn – heb golli unrhyw un o’r datganiadau hanfodol sy’n ofynnol ar gyfer Polisi Diogelwch Ar-lein yr ysgol
  • Mae “Datganiad Polisi Diogelwch Ar-lein” newydd (Atodiad A7) sy’n crynhoi prif bwyntiau’r Templedi Polisi Diogelwch Ar-lein mewn datganiad dwy dudalen
  • Mae Templed Polisi Seiberddiogelwch newydd (Atodiad C3)

Gyda’r diweddariadau sylweddol i’r Templedi Polisi, rydyn ni’n argymell bod ysgolion yn defnyddio’r fersiynau diweddaraf, a’u haddasu i anghenion ac amgylchiadau penodol yr ysgol.

Os hoffech gael rhagor o fanylion neu eglurhad, cysylltwch â ni ar360safe@swgfl.org.uk