Ein Gwobrau
Menter Diogelwch Gwybodaeth y Flwyddyn 2013
Mae'r South West Grid for Learning yn falch o gael cyhoeddi bod yn ennillwyr yng Ngwobrau Rheoli Risgiau 2013 ar 20fed Tachwedd yn y categori 'Menter Diogelwch Gwybodaeth y Flwyddyn’.
Prosiect Cymunedol y Flwyddyn 2011
Roedd y South West Grid for Learning yn enillydd yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU BCS a Computing 2011, sydd yn adnabod arloesedd a phroffesiynoliaeth y rhai sydd yn gweithio mewn TG yn y categori Prosiect Cymunedol y Flwyddyn.
Gwobr Gwneud y Rhyngrwyd yn Ddiogelach 2011
Roedd SWGfL yn enillydd yng Ngwobrau Rhyngrwyd Nominet 2011, sydd yn amlygu cwmnïau, elusennau ac unigolion y DU sydd yn gwneud gwahaniaeth ar, neu drwy, y rhyngrwyd. O dan y categori Gwneud y Rhyngrwyd yn fwy diogel, llwyddodd SWGfL i ennill y wobr.
Gwobr Diogelwch y Rhyngrwyd 2011
Casglodd SWGfL y wobr mawreddog yma i gydnabod 360 degree safe ar 7fed Gorffennaf 2011. Mae'r ISPAs - gwobrau Diwydiant Rhyngrwyd y DU - yn unigryw gan eu bod yn cael eu gwobrwyo i bobl a sefydliadau yn y diwydiant gan eu cyfoedion ac yn adlewyrchu natur eang y sector darparu gwasanaeth.
Gwobr Datrysiadau Arweinyddiaeth a Rheolaeth 2011
Roedd South West Grid for Learning wrth ei fodd i ennill y wobr Datrysiadau Arweinyddiaeth a Rheolaeth yng Ngwobrau BETT 2011am ei declyn hunan adolygu e-Ddiogelwch mewn ysgolion, 360 degree safe. Mae'r Gwobrau BETT yn adnabod cynnyrch addysgiadol a datrysiadau dysgu eithriadol, a gyda llawer iawn o geisiadau, mae'n cael ei ystyried fel y mwyaf breintiedig yn y sector.