1. Trosolwg
  2. Canllaw Cychwyn

Canllaw Cychwyn Cyflym: Sut mae defnyddio 360safe Cymru

360-ddiogelMae adnodd 360safe Cymru yn gadael i chi roi sgôr i’ch ysgol/sefydliad ar gyfer nifer o feini prawf gwahanol ar ddiogelwch ar-lein.

Mae’n cael ei rannu’n elfennau, is-gategorïau ac agweddau. Mae pob agwedd yn cynnwys datganiadau 5 lefel, ac mae’r rheini’n ymddangos ar y dudalen adolygu. Mae’n bosib dewis sgôr o 5 i 1, gydag 1 yn golygu’r cyflawniad mwyaf.

Dangosfwrdd Adolygu

Mae’ch dangosfwrdd adolygu yn rhoi trosolwg o’ch cynnydd yn yr adnodd. Mae’r graff radar yn dangos y lefelau rydych chi wedi’u dewis ar gyfer pob agwedd (gwyrdd), ynghyd â’r lefel genedlaethol bresennol (glas) a’r lefelau meincnod sy’n cael eu hargymell (coch).

Mae hyn yn rhoi syniad i chi’n syth o’r elfennau diogelwch ar-lein y mae angen eu gwella. Cliciwch y pwynt lle mae'r llinell agwedd yn cwrdd â’r llinell goch er mwyn mynd i’r agwedd dan sylw, a bwrw ymlaen â’ch adolygiad.

Elfennau

Yr elfennau yw’r lefel uchaf yn y strwythur, ac maen nhw’n diffinio’r pedwar prif gategori ar gyfer cynnal yr adolygiad.

Mae pob elfen yn cynnig man cychwyn i’r adolygiad. Cliciwch unrhyw elfen i weld is-gategorïau’r elfen honno.

Is-gategorïau

Mae pob elfen yn cael ei rhannu’n sawl is-gategori. Mae’r pedair elfen yn cynnwys 11 is-gategori i gyd. Mae pob is-gategori yn cael ei rannu wedyn yn agweddau.

Mae lefel gyfartalog is-gategori yn cael ei chyfrifo drwy ddefnyddio’r sgôr a roddir i bob agwedd yn yr is-gategori hwnnw. Cliciwch unrhyw is-gategori i weld ei agweddau.

Agweddau

Bydd pob agwedd yn cynnwys datganiadau pum lefel. Dewiswch y datganiad sy’n rhoi’r disgrifiad gorau o’ch sefyllfa bresennol chi. Mae lefel meincnod y Marc Diogelwch Ar-lein wedi’i nodi wrth ymyl y datganiad perthnasol.

Ar ôl i chi ddewis lefel, byddwch chi’n gweld y camau gwella perthnasol. Gallwch roi sylwadau ar eich sefyllfa bresennol, eich tystiolaeth a’ch cynllun gwella.

Mae’r cynnydd ym mhob agwedd yn dibynnu a ydych chi wedi dewis lefel ac wedi rhoi sylwadau.