1. Trosolwg
  2. Astudiaethau Achos
  3. Gwaith y Cydlynydd Diogelwch Ar-lein

Gwaith y Cydlynydd Diogelwch Ar-lein

Mae gwaith y cydlynydd diogelwch ar-lein yn allweddol i weithredu diogelwch ar-lein yn effeithiol mewn ysgol.  Mae nodweddion unigolion yn y swydd yn amrywio, ond gwelwyd bod ymrwymiad brwd i wreiddio diogelwch ar-lein ymhob rhan o fywyd yr ysgol, a phenderfyniad i weithio tuag at achrediad Marc Diogelwch Ar-lein, yn gwella’r gwaith diogelu a hyder yr holl gymuned i gadw plant yn ddiogel ar-lein. Mae’r astudiaeth achos isod wedi’i pharatoi gan dîm ELiM Gwlad yr Haf ac mae’n cynnwys dyfyniadau o adroddiadau Aseswr Nod Diogelwch Ar-lein.

Y disgwyl ar gyfer achrediad Marc Diogelwch Ar-lein

Mae'r ysgol/coleg wedi dynodi aelod o’r staff i fod yn gyfrifol am ddiogelwch ar-lein gyda chyfrifoldebau clir. Maen nhw’n cynnwys arweinyddiaeth y grŵp diogelwch ar-lein, hyfforddiant i'r staff ac ymwybyddiaeth ymysg y staff. Maen nhw’n gyfrifol am fonitro digwyddiadau a delio â materion sensitif. Mae nifer o aelodau o'r staff yn cymryd rhan frwd mewn diogelwch ar-lein.

Ysgol Gyntaf Knights Templar

“Mae’r arweinyddiaeth i ddiogelwch ar-lein yn Ysgol Gyntaf Knights Templar yn ysbrydoledig, a hynny o ran y Grŵp Diogelwch Ar-lein, sy'n cynnwys cyfraniad yr Arweinwyr Digidol, a’r Arweinydd Diogelwch Ar-lein, sydd wedi dangos penderfyniad i symud yr ysgol yn ei blaen yn hyn o beth.”

Lefel i ymgyrraedd ato yn y pecyn hunanadolygu 360 degrees safe:

Mae'r ysgol/coleg wedi dynodi aelod o’r staff i fod yn gyfrifol am ddiogelwch ar-lein gyda chyfrifoldebau clir. Mae’r rhain yn cynnwys arweinyddiaeth y grŵp diogelwch ar-lein, hyfforddiant i'r staff ac ymwybyddiaeth ymysg y staff, ymrwymiad i raglen ddiogelwch ar-lein a’i chydlynu gyda’r gymuned ehangach. Maen nhw’n gyfrifol am fonitro digwyddiadau a delio â materion sensitif. Mae’r holl staff yn cymryd cyfrifoldeb brwd dros ddiogelwch ar-lein.

Ysgol Gyntaf St Bartholomew

“Er bod heriau oherwydd newidiadau yn y staff a newid yn y llywodraethiant, mae’r arweinydd e-ddiogelwch wedi manteisio ar bob cyfle i sicrhau bod diogelwch ar-lein yn ganolog wrth ddefnyddio pob technoleg yn y cwricwlwm, ac mae’n frwd dros bwysigrwydd hynny.”

Argymhellir y dylai'r Cydlynydd Diogelwch Ar-lein gael y gwaith a ganlyn

  • Arwain y Grŵp Diogelwch Ar-lein
  • Cydlynu gwaith gydag Arweinydd Diogelwch Dynodedig yr Ysgol
  • Cofnodi, rheoli a hysbysu pobl eraill am ddigwyddiadau diogelwch ar-lein, a sut cawsant eu datrys pan fo hyn yn briodol
  • Cwrdd â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Llywodraethwr Diogelwch Ar-lein i drafod digwyddiadau a datblygiadau yn rheolaidd
  • Arwain y gwaith o sefydlu ac adolygu polisïau a dogfennau diogelwch ar-lein
  • Arwain a monitro cwricwlwm blaengar ar gyfer diogelwch ar-lein i'r disgyblion
  • Sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o'r gweithdrefnau sydd mewn polisïau ar gyfer diogelwch ar-lein
  • Darparu a/neu drefnu hyfforddiant a chyngor i'r staff
  • Mynychu sesiynau diweddaru, tanysgrifio i’r cylchlythyrau priodol a chysylltu â staff diogelwch ar-lein a staff technegol yn yr Awdurdod Lleol/Consortiwm Addysg Rhanbarthol

Dylid dehongli’r disgrifiad yn unol â maint, ystod oedran ac ethos yr ysgol.  Mae'r ddogfen hon yn darparu arweiniad ar bob un o'r pwyntiau bwled.

Arwain y Grŵp Diogelwch Ar-lein

Gwelir diogelwch ar-lein effeithiol mewn ysgolion lle mae cymuned yr ysgol gyfan yn chwarae rhan a lle mae profiad a gwybodaeth y dysgwyr yn cyfrannu at y polisi a’r arferion.  Ni all arweinyddiaeth fod yn waith i un person. Nid oes raid i'r grŵp Diogelwch Ar-lein fod yn fawr, a gall fod yn estyniad i grŵp arall.  Dylai gynnwys yr Arweinydd Diogelu Dynodedig, athrawon eraill, dysgwyr ac un Llywodraethwr.  Mae llawer o ysgolion cynradd yn cynnwys cyngor yr ysgol neu grwpiau arweinwyr digidol. Mae’n bwysig i'r grŵp gwrdd yn rheolaidd ond nid yw hynny’n golygu na ellir cwblhau gwaith y tu allan i’r cyfarfodydd. Y Cydlynydd sy'n arwain y grŵp, fel galluogydd sy'n trefnu’r cyfarfod, yn cofnodi'r pwyntiau gweithredu ac yn sicrhau bod y rhain yn cael eu cwblhau.

Ysgol Gynradd Kingston St Mary:

“Mae’r cyd-berchnogaeth ar y polisi a’r arferion diogelwch ar-lein, a'r ffaith fod y pennaeth yn disgwyl bod hynny’n gyfrifoldeb i bawb, wedi arwain at ei wreiddio ym mywyd yr ysgol.”

Cydlynu gwaith gydag Arweinydd Diogelwch Dynodedig yr Ysgol

Rhaid cael synergedd rhwng gwaith yr Arweinydd Diogelu Dynodedig a'r Cydlynydd Diogelwch Ar-lein. Mewn rhai ysgolion, un person sy’n gyfrifoldeb am y ddau beth.  Mewn ysgolion eraill, gwaith y Cydlynydd Diogelwch Ar-lein yw cydlynu’r strategaeth, a’r Arweinydd Diogelu Dynodedig, neu aelod arall o’r uwch dîm arweinyddiaeth, sy’n gyfrifol yn y pen draw. Beth bynnag yw’r sefyllfa, dylai diogelwch ar-lein fod yn is-set i ddiogelu, a rhaid cydlynu rhwng y ddwy swydd.  Dylai hyn ddigwydd drwy gyfarfod rheolaidd i drafod:

  • Materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein a diogelu
    • beth ddigwyddodd?
    • beth oedd yr ateb?
    • allwn ni wella’r ymarfer?
    • allwn ni wella’r addysg?
  • Cyfathrebu â’r gymuned
  • Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ac addysg

Ysgol Gynradd Eastover:

“Mae gan yr ysgol arweinyddiaeth dda mewn perthynas â Diogelwch Ar-lein.  Mae’r berthynas weithio rhwng yr Arweinydd Diogelu Dynodedig a’r Arweinydd Diogelu Ar-lein yn rhagorol, a chynhelir cyfarfodydd yn aml i edrych ar faterion ac atebion.” 

Cofnodi, rheoli a hysbysu pobl eraill am ddigwyddiadau diogelwch ar-lein, a sut cawsant eu datrys pan fo hyn yn briodol

Mae angen ystyried y ffyrdd gorau o gofnodi diogelwch ar-lein a materion diogelu.  Dylai pob ysgol gael cofnod o ddigwyddiadau diogelu, ac mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn defnyddio’r un weithdrefn ar gyfer digwyddiadau diogelwch ar-lein. Os rhoddir gwybod i'r Cydlynydd am ddigwyddiadau, dylai eu cofnodi ar yr un system.

Dylai'r Arweinydd Diogelu Dynodedig a'r Cydlynydd Diogelwch Ar-lein sefydlu protocolau ar gyfer delio â'r digwyddiadau hyn.  Dylid trafod y digwyddiadau yn y cyfarfod rheolaidd

Ysgol Gynradd Oaklands

“Drwy adrodd yn fisol ynghylch ymweliadau â gwefannau, a’r adroddiadau ynghylch digwyddiadau, mae’r ysgol yn monitro’r sefyllfa nid yn unig yn yr ysgol ond hefyd y tu allan i'r ysgol.   Mae’r gwaith monitro yn cael ei adrodd i'r llywodraethwyr, ac mae’n dylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd yn yr ysgol.” 

Ysgol Gynradd Somerset Bridge

"Mae’r ymrwymiad i ddiogelwch ar-lein gan holl aelodau cymuned yr ysgol yn cael ei ddangos drwy ddefnydd effeithiol o becyn adrodd CPOMS.   Gall pawb o'r staff fynd arno i gofnodi pryderon am ddiogelu; ond dim ond yr arweinwyr a’r llywodraethwr Diogelu Plant sy’n gallu gweld yr holl wybodaeth a gofnodir.   Ychwanegir y camau a gymerwyd ac mae aelodau o'r staff yn cael eu tagio pan fo angen iddynt gael gwybod am ryw fater.   Dilynir trywydd camau gweithredu a’u hatgyfnerthu drwy wasanaethau boreol, gyda phwyslais ar wersi diogelwch ar-lein a sgyrsiau drwy’r amser â rhieni, plant ac aelodau o'r staff.  Mae’r data’n cael ei fonitro, a bydd modd cymharu materion a chamau gweithredu flwyddyn ar ôl blwyddyn."

Cwrdd â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Llywodraethwr Diogelwch Ar-lein i drafod digwyddiadau a datblygiadau yn rheolaidd

Mae hyn yn rhan o’r gwaith gyda’r Arweinydd Diogelu Dynodedig a gwaith y grŵp Diogelwch Ar-lein.  Pan nad yw cyfarfodydd rheolaidd y grŵp diogelwch ar-lein yn mynd yn eu blaenau am ryw reswm, rhaid trefnu cyfarfod unwaith bob hanner tymor gyda’r Arweinydd Diogelu Dynodedig a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth i drafod pryderon a thechnoleg newydd sydd ar gael. 

Arwain y gwaith o sefydlu ac adolygu polisïau a dogfennau diogelwch ar-lein

Dylai'r ysgol gael polisi diogelwch ar-lein a chytundebau cysylltiedig ar gyfer Defnydd Derbyniol.  Gallai'r rhain fod yn seiliedig ar batrymau gan asiantaethau a’u haddasu ar gyfer yr ysgol.  Fel arfer, mae polisïau’n cael eu hadolygu bob blwyddyn neu bob dwy flynedd, yn ôl ysgogiad gan y Llywodraethwyr. Mae angen i'r Cydlynydd Diogelwch Ar-lein fod yn ymwybodol o'r dyddiadau adnewyddu a gwneud yn siŵr bod polisïau eraill (diogelu, ymddygiad, diogelu data ac ati) yn adlewyrchu’r newidiadau.

Arwain a monitro cwricwlwm blaengar ar gyfer diogelwch ar-lein i'r disgyblion

Dylai'r Cydlynydd alluogi'r staff i addysgu cwricwlwm blaengar ar gyfer diogelwch ar-lein.  Dylen nhw sefydlu cynllun cwricwlwm sy'n nodi'r addysg a digwyddiadau eraill drwy gydol y flwyddyn ysgol.  Dylid darparu adnoddau o’r cynllun ar gyfer pob dosbarth. Mae cyfrifoldeb y Cydlynydd yn ymestyn i fonitro'r ddarpariaeth drwy gyfweliadau â staff a disgyblion, edrych ar arddangosfeydd yn yr ystafelloedd dosbarth, a gallai gynnwys arsylwi ar ddosbarthiadau.

Ysgol Gyntaf Hayesdown

“Mae’r plant yn siarad yn wybodus a brwdfrydig am ddysgu am ddiogelwch ar-lein. Maen nhw’n eglur iawn ynglŷn â beth i'w wneud os ydynt yn gweld rhywbeth nad ydynt yn siŵr ohono, ac roeddent yn siarad yn hyderus am ddefnyddio'r rheolau SMART yn y dosbarth a gartref. Mae’r grŵp yn amlwg yn mwynhau'r her i gefnogi eu cyfoedion. Wrth drafod seiberfwlio, bu’r plant yn sôn sut bydden nhw’n rhoi gwybod i’w hathro/athrawes am ddigwyddiad a sut bydden nhw’n ymddwyn yn briodol wrth gyfathrebu ar-lein. Buon nhw’n siarad hefyd am gemau ar-lein a heriau sy'n gysylltiedig â gemau anaddas i'w hoedran: “Rydw i bob amser yn cael Mam neu Dad i fy helpu i ddewis gêm er mwyn iddyn nhw wybod fod y gêm yn ddiogel.” 

Sicrhau bod y staff i gyd yn ymwybodol o'r gweithdrefnau sydd yn y polisïau ar gyfer diogelwch ar-lein

Dylai polisïau a gweithdrefnau fod yn rhan o lawlyfr y staff a gweithdrefnau cynefino staff.  Ond er mwyn i'r polisi ddod yn rhan o arferion yr ysgol, dylai fod yn rhan o sesiynau datblygiad proffesiynol a thrafodaeth barhaus mewn cyfarfodydd staff. Dylai staff newydd gael eu cyflwyno i’r rhai sy’n gyfrifol am ddiogelwch ar-lein. Pan fo digwyddiad penodol yn effeithio ar y disgyblion neu'r staff, dylid rhannu hyn yn briodol gyda’r staff a chytuno ar newidiadau i’r weithdrefn a'r polisi.

Ysgol Gynradd Somerset Bridge

“Mae’r polisi’n cael ei roi ar waith drwy atgyfnerthu mewn cyfarfodydd staff ar gyfer staff addysgu a chymorth ... Mae gan y cydlynydd e-ddiogelwch swyddogaeth weithgar mewn undeb addysgu ac mae hynny wedi cyfrannu at ei allu i reoli'r modd y mae gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i gynyddu hyder ymysg y staff heb iddynt ofni gormod o ofynion.”

Darparu hyfforddiant a chyngor i'r staff

Dylai'r ysgol ddarparu hyfforddiant rheolaidd i'r staff.  Mae’n rhan o gyfrifoldebau’r Cydlynydd i ddarparu'r hyfforddiant hwn. Rydyn ni'n argymell bod yr holl staff yn cael hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein bob dwy flynedd o leiaf.  Gallai hyn gael ei ddarparu gan y Cydlynydd, yr Awdurdod Lleol/Consortiwm Addysg Rhanbarthol neu asiantaethau eraill.

Ysgol Gynradd Kingston St Mary

“Mae hyfforddiant i staff wedi bod yn rhan o Hyfforddiant Mewn Swydd, ac wedi’i gynnwys ar agendâu cyfarfodydd staff dan yr eitem diogelu.  Mae’r cyn-arweinydd e-ddiogelwch a’r arweinydd cyfredol wedi mynychu cwrs undydd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu e-ddiogelwch mewn ysgol gynradd.   Mae cymorthyddion dysgu wedi cael hyfforddiant fel rhan o’u cyfarfodydd i roi gwybod iddynt am bryderon a’r broses o hysbysu. Mae llywodraethwr wedi mynychu hyfforddiant e-ddiogelwch ac wedi rhoi adborth i brif gyfarfod y llywodraethwyr.” 

Mynychu sesiynau diweddaru, tanysgrifio i’r cylchlythyrau priodol a chysylltu â staff diogelwch ar-lein a staff technegol yn yr Awdurdod Lleol/Consortiwm Addysg Rhanbarthol

Mae angen i'r Cydlynydd ddilyn y datblygiadau hyn.  Gallai hyn fod gyda gwybodaeth gan yr Awdurdod Lleol/Consortiwm Addysg Rhanbarthol, Hwb, y Ganolfan ar gyfer Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel neu asiantaethau eraill.