1. Trosolwg
  2. Astudiaethau Achos
  3. Beth yw grŵp diogelwch ar-lein effeithiol?

Beth yw grŵp diogelwch ar-lein effeithiol?

Mae grŵp diogelwch ar-lein mewn ysgol wedi bod yn allweddol i ddatblygu arferion effeithiol mewn ysgolion sydd wedi cael y Marc Diogelwch Ar-lein.  Nid oes yr un ysgol yr un fath, a bydd y ffordd y mae grŵp Diogelwch Ar-lein yn gwneud gwahaniaeth i faterion diogelu yn amrywio yn ôl ystod oedran, maint, ethos a gallu’r gymuned yn yr ysgol.  Mae angen i bob ysgol ystyried sut bydd yr oedolion a’r dysgwyr yn cyfrannu, a sut gallwn nhw weithio’n effeithiol â’i gilydd.

Y disgwyl ar gyfer Marc Diogelwch Ar-lein

Mae grŵp gweithgar gan yr ysgol/coleg ar gyfer diogelwch ar-lein, ac mae ganddo gynrychiolaeth eang o’r uwch dîm arweinyddiaeth, staff (gan gynnwys cynrychiolydd diogelu), y llywodraethwr diogelwch ar-lein, a dysgwyr. Mae ganddo linellau clir ar gyfer cyfrifoldeb ac atebolrwydd.

Datganiad lefel i ymgyrraedd ato o’r pecyn hunanadolygu 360 degrees safe

Mae grŵp gweithgar gan yr ysgol/coleg ar gyfer diogelwch ar-lein, ac mae ganddo gynrychiolaeth eang o’r ysgol/coleg, e.e. uwch dîm arweinyddiaeth, staff addysgu a chymorth (gan gynnwys cynrychiolydd diogelu), llywodraethwyr a dysgwyr, a hefyd o blith rhieni a gofalwyr a'r gymuned yn ehangach. Mae ganddo linellau clir ar gyfer cyfrifoldeb ac atebolrwydd, ac mae holl aelodau’r ysgol/coleg yn eu deall.  Mae’r grŵp wedi’i integreiddio’n dda ac mae’n cydweithio â grwpiau perthnasol eraill yn yr ysgol/coleg, e.e. cyngor yr ysgol/coleg.

Ysgol Gynradd Oaklands:

“Mae’r gwaith yn cael ei hybu gan y pwyllgor e-ddiogelwch, gydag aelodau o blith y llywodraethwyr, rhieni, athrawon a disgyblion.  Byddan nhw’n cwrdd yn rheolaidd ac yn trafod materion ac yn blaenoriaethau camau gweithredu.  Rhoddir cyfrifoldebau sylweddol i'r disgyblion er enghraifft, cyfrifoldeb y cynrychiolydd e-ddiogelwch yw llofnodi dogfen rheolau'r dosbarth yn hytrach nag athro/athrawes y dosbarth. Roedd swyddogaeth y grŵp e-ddiogelwch yn amlwg eto gan fod y disgyblion yn gwybod pwy oedd eu cynrychiolydd, maen nhw’n gwrando pan maen nhw’n adrodd yn ôl ac maen nhw’n mynd atynt i gael cyngor.”

Aelodau'r grŵp

Dylai'r bobl yn y grŵp gynnwys:

  • Cydlynydd Diogelwch Ar-lein
  • Arweinydd Diogelu Dynodedig
  • Cynrychiolwyr o blith dysgwyr o bob blwyddyn (mae rhai ysgolion yn defnyddio cyngor yr ysgol neu aelodau sy’n Arweinwyr Digidol)
  • Aelodau eraill o'r staff, e.e. Cymhorthydd Dysgu sydd â chyfrifoldeb am Dechnoleg Gwybodaeth
  • Llywodraethwr sy’n gyfrifol am Ddiogelwch Ar-lein

Ysgol Gynradd Somerset Bridge

“Mae gan Ysgol Gynradd Somerset Bridge dîm arweinyddiaeth diogelwch ar-lein sy’n cynnwys y Dirprwy Bennaeth ac Arweinydd Diogelu Plant, Cydlynydd e-ddiogelwch (rhannu swydd), Rhiant-lywodraethwr a Llywodraethwr Diogelu; yn gweithio gyda’r e-Gadetiaid, sef grŵp o ddeg o ddisgyblion blwyddyn 6.  Maen nhw’n cael cefnogaeth y Pennaeth, sy’n gosod disgwyliadau uchel i faterion diogelu yn yr ysgol.  Mae materion diogelu yn rhan greiddiol o fywyd yr ysgol, ac mae’r plant yn defnyddio ac yn deall y term.  Mae diogelwch ar-lein yn rhan o'r gofal hwn, ac mae i’w weld yng ngweithredoedd y tîm bugeiliol, a’r staff addysgu a staff eraill.   Mae’r e-Gadetiaid yn cael eu paru â dosbarth.  Maen nhw’n cwrdd bob wythnos ag un neu ragor o'r oedolion, maen nhw’n addysgu gwersi, yn gofalu am y pwyntiau atgoffa gweledol o gwmpas yr ysgol, yn trosglwyddo gwybodaeth i ddisgyblion eraill ac yn gwirio bod yr oedolion yn y tîm yn cyflawni’r camau gweithredu a addawyd.  I'r oedolion yn y grŵp, mae’r sgyrsiau pwysig yn digwydd pan fo angen rhannu gwybodaeth am bryderon a chamau gweithredu.”

Pa mor aml y cynhelir y cyfarfodydd

Dylid cynnal cyfarfodydd ffurfiol o leiaf unwaith y tymor, a chynghorir eu cynnal unwaith bob hanner tymor.  Cynhelir sesiynau anffurfiol i ‘ddal i fyny’ yn y cyfamser pan fydd pryderon, posibiliadau newydd ar gyfer technoleg neu syniadau i gynyddu’r effaith ar ddiogelwch ar-lein.  Bydd rhywfaint o waith yn digwydd mewn grwpiau llai.  Bydd y dysgwyr yn cwrdd yn fwy aml gyda chynrychiolwyr o blith oedolion yn y grŵp.  Bydd y staff yn cwrdd ar wahân ar gyfer materion strategol neu sensitif.

Ysgol Gynradd Huish:

"Mae gan Ysgol Gynradd Huish grŵp clir o arweinwyr sy’n gyfrifol am ddarpariaeth e-ddiogelwch, gan gynnwys y Rheolwr e-Ddysgu, y Dirprwy Bennaeth, Cydlynydd AAA, Pennaeth/Arweinydd Diogelu Plant, a Chadeirydd y Llywodraethwyr.  Dyma bwyllgor e-ddiogelwch o'r staff, ac yn eu cefnogi mae grŵp o ddysgwyr sydd wedi cael hyfforddiant i fod yn e-Gadediaid.

Ysgol Gyntaf Knights Templar

"Mae Arweinwyr Digidol yn ymweld â phob dosbarth unwaith yr wythnos i gofnodi unrhyw bryderon sydd wedi codi.  Fe wnaethant ysgrifennu a pherfformio drama fer cyn y perfformiad Nadolig i atgoffa rhieni am eu cyfrifoldebau i dynnu lluniau ffotograff i gofio am eu plant yn cymryd rhan, ac nid i ddim byd arall.  Mae hon bellach ar fideo ar wefan yr ysgol.”

Gall y cyfarfod gynnwys:

Gyda dysgwyr

  • Beth mae’r plant yn ei wneud adref?
    • Beth yw’r ffasiwn ddiweddaraf?
  • Beth mae’r dysgwyr wedi’i ddysgu ers y cyfarfod diwethaf?
  • Beth sydd angen i'r dysgwyr ei wybod?
  • Pa gamau allai gyfrannu at gynyddu diogelwch ar-lein yn yr ysgol?
  • Hysbysiadau ar gyfer cylchlythyr rhieni:
    • beth ddylen ni ei gynnwys?
    • pwy sy’n mynd i’w ysgrifennu?
  • Cystadlaethau diogelwch ar-lein yn yr ysgol:
    • beth fyddan nhw eleni?
    • pwy sy’n mynd i'w trefnu?
    • pwy sy’n mynd i'w beirniadu?
  • Paratoi ar gyfer diwrnodau arbennig:
    • Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel
    • Wythnos Gwrth-fwlio
    • nosweithiau rhieni (dosbarthu deunyddiau ac ati)
  • Paratoi adroddiad i'r Llywodraethwyr
  • Unrhyw faterion yr hoffai'r staff eu crybwyll ond sydd heb ymddangos yn y cyfarfod

Heb ddysgwyr (gallai fod yn rhan o'r cyfarfod rhwng yr Arweinydd Diogelu Dynodedig a’r Cydlynydd Diogelwch Ar-lein)

  • Materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein a diogelu
    • beth ddigwyddodd?
    • beth oedd yr ateb?
    • allwn ni wella’r ymarfer?
    • allwn ni wella’r addysg?
  • Cyfathrebu â’r gymuned
  • Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ac addysg
  • Diweddaru polisi a dogfennau eraill
  • Y gofynion ar gyfer gwella seilwaith