Trosolwg o 360 degree safe Cymru
Mae adnodd hunanadolygu 360 degree safe ar gael am ddim, a phwrpas yr adnodd yw helpu ysgolion i adolygu eu harferion a’u polisïau diogelwch ar-lein. Mae’n darparu:
- Gwybodaeth sy’n gallu dylanwadu ar y gwaith o lunio neu adolygu polisïau diogelwch ar-lein, a datblygu arferion da.
- Proses i nodi cryfderau a gwendidau.
- Cyfleoedd i gael ymrwymiad gan yr ysgol gyfan ac i gael pawb yn gysylltiedig â’r broses.
- Continwwm i ysgolion drafod sut gallan nhw symud o ddarpariaeth sylfaenol ar gyfer diogelwch ar-lein i arferion arloesol ac uchelgeisiol.
.
Nodweddion a Buddion
- Hybu defnydd ar-lein ar y cyd yn eich ysgol.
- Cael adborth ar unwaith a chamau gweithredu a awgrymir i’ch helpu i ddatblygu.
- Cofnod o ffynonellau tystiolaeth, sylwadau a chamau gweithredu yn eich cyfrif.
- Gallu casglu ac argraffu amrywiaeth eang o adroddiadau’n rhwydd.
- Cymharu’ch ymatebion â defnyddwyr eraill yr adnodd ar-lein.
Adnodd ar-lein sydd wedi ennill gwobrau...
Mae 360 degree safe wedi ennill nifer o wobrau cenedlaethol, a dyma rywfaint o sylwadau’r beirniaid...
"Mae 360 degree safe yn dod â chymuned yr ysgol at ei gilydd, ac yn cynnig ffordd wych i ysgolion symud ymlaen. Mae’n adnodd am ddim, yn gynhwysfawr ac yn hawdd ei ddefnyddio, ac mae’n amlwg iddo gael ei greu gyda defnyddwyr mewn golwg. Mae’n rhoi cyngor ac yn cynnig adnoddau sy’n arbed amser."
Enillydd Gwobr BETT – Arwain a Rheoli
"Mae 360 degree safe yn adnodd ar-lein sy’n rhoi cyfle i ysgolion adolygu eu darpariaeth diogelwch ar-lein. Mae wedi’i gynllunio’n dda, ac yn hawdd ei ddefnyddio. Mae’n eu helpu i nodi cryfderau / gwendidau, ac i ddatblygu cynllun gwella"
Enillydd Gwobr Nominet – Gwobrau gwneud y rhyngrwyd yn fwy diogel
"Adnodd gwych sy’n helpu i rymuso ysgolion i ddatblygu a phrofi eu polisïau diogelwch eu hunain, ac i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch diogelwch ar-lein."
Enillydd Gwobr ISPA
"Mae’r wobr BCS hon yn amlygu arferion gorau, arloesedd a rhagoriaeth 360 degree safe"
Enillydd Gwobr BCS UK IT
"Mae 360 degree safe yn adnodd ar-lein sy’n rhoi cyfle i ysgolion adolygu eu darpariaeth diogelwch ar-lein. Mae wedi’i gynllunio’n dda, ac yn hawdd ei ddefnyddio. Mae’n eu helpu i nodi cryfderau / gwendidau, ac i ddatblygu cynllun gwella"- Enillydd Gwobr Nominet – Gwobrau gwneud y rhyngrwyd yn fwy diogel