Yr adnodd hunanadolygu diogelwch ar-lein i ysgolion

Nod 360 degree safe Cymru yw helpu ysgolion yng Nghymru i adolygu eu harferion a’u polisïau diogelwch ar-lein. Yn ystod yr adolygiad, byddwch chi’n gweithio ar bob agwedd ar ddiogelwch ar-lein. Bydd hynny’n eich helpu i gydweithio, i adrodd yn ôl ac i ddatblygu.

Mynd i’ch Adolygiad

Croeso i 360 degree safe Cymru – adnodd sydd wedi ennill gwobrau, ac sy’n rhoi cyfle i ysgolion hunanadolygu diogelwch ar-lein. Mae’r adnodd yn darparu:

  • Gwybodaeth sy’n gallu dylanwadu ar y gwaith o lunio neu adolygu polisïau diogelwch ar-lein, a datblygu arferion da.
  • Proses i nodi cryfderau ac elfennau i’w datblygu.
  • Cyfleoedd i gael ymrwymiad gan yr ysgol gyfan ac i gael pawb yn gysylltiedig â’r broses.
  • Continwwm i ysgolion drafod sut gallan nhw symud o ddarpariaeth sylfaenol ar gyfer diogelwch ar-lein i arferion arloesol ac uchelgeisiol.
"Mae 360 degree safe yn dod â chymuned yr ysgol at ei gilydd, ac yn cynnig ffordd wych i ysgolion ddatblygu. Mae’n adnodd am ddim, yn gynhwysfawr ac yn hawdd ei ddefnyddio, ac mae’n amlwg iddo gael ei greu gyda defnyddwyr mewn golwg. Mae’n rhoi cyngor ac yn cynnig adnoddau sy’n arbed amser." - Enillydd Gwobr BETT – Arwain a Rheoli