Cwestiynau Cyffredin a Chymorth
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu adborth ar faterion technegol, neu os oes gennych chi ymholiadau am yr adnodd neu’r broses achredu, darllenwch y cwestiynau cyffredin yma.
Os nad yw’r Cwestiynau Cyffredin yn rhoi’r ateb sydd ei angen arnoch chi, gallwch ddefnyddio’r ffurflen “Cymorth Pellach” isod i gael rhagor o help.
Gallwch hefyd sôn wrthym ni am unrhyw enghreifftiau o arferion da, adnoddau e-Ddiogelwch neu hyfforddiant sydd ar gael yn lleol neu ar draws Cymru. Os ydyn nhw’n briodol, byddem yn falch o’u hychwanegu at yr adnodd.
Beth ydy'r teclyn 360 degree safe?
Mae'r teclyn 360 degree safe yn caniatáu i ysgolion adolygu eu darpariaeth e-Ddiogelwch, ei maincfesur yn erbyn ymarfer da ac ysgolion eraill, cynhyrchu cynlluniau gweithredu a chael mynediad i adnoddau ymarfer da.
Pwy sydd yn gallu defnyddio'r teclyn?
Bwriad 360 degree safe Cymru ydy teclyn at ddefnydd holl ysgolion yng Nghymru.
Ble ydw i'n gallu dod o hyd i wybodaeth ychwanegol am yr adnodd?
Mae hyn ar gael o dan y tab Trosolwg ac mae’n cynnwys Canllaw Cychwyn, Map Strwythur, Astudiaethau Achos a fersiwn pdf o gynnwys yr adnodd.
Ydw i'n gallu defnyddio dim ond y fersiwn pdf ar gyfer fy adolygiad?
Mae’r fersiwn pdf yn gymorth defnyddiol i ysgolion sy’n cynnal eu hadolygiad, ond nid yw’n darparu holl swyddogaethau rhyngweithiol yr adnodd ar-lein - yn cynnwys y camau gwella, adroddiadau a dolenni i ddogfennau arfer da. Rydym yn argymell yn gryf y dylech ddefnyddio’r adnodd ar-lein ond, os bydd angen, cadwch y fersiwn pdf wrth law i’ch helpu chi a’ch cydweithwyr i gynnal eich adolygiad.
Ydw i'n gallu defnyddio'r fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r adnodd?
Gallwch ddefnyddio’r naill iaith neu’r llall a dylech fod yn gallu gweld eich adolygiad yn y naill iaith neu'r llall hefyd. Bydd eich sylwadau yn y blychau testun gwag a’ch adroddiadau yn yr iaith rydych chi wedi’i defnyddio.
Sawl cyfrif gall pob ysgol ei gael ar 360 degree safe Cymru?
Mae'r adnodd yn gweithio ar sail un cyfrif ar gyfer pob ysgol. Mae hyn yn golygu y byddai’r person cyntaf o ysgol i fewngofnodi i'r adnodd drwy Hwb yn dod yn Weinyddwr y cyfrif hwnnw yn awtomatig. Bydd unrhyw ddefnyddwyr sy'n mewngofnodi i'r adnodd drwy Hwb wedyn yn dod yn ddefnyddwyr ychwanegol.
Dim ond y Gweinyddwr sydd yn gallu gweld manylion pwy sydd wedi cofrestru i ddefnyddio’r adnodd o dan “fy nghyfrif”. Ni all y Gweinyddwr ychwanegu defnyddwyr at yr adnodd (gwneir hyn drwy “fewngofnodi sengl” o’r Hwb - fel uchod).
Os yw’r Gweinyddwr yn gadael yr ysgol neu'n newid, mae’n bwysig bod yr ysgol yn rhoi gwybod i ni drwy anfon e-bost at 360safe@swgfl.org.uk er mwyn i ni allu dyrannu hawliau Gweinyddwr i’r aelod staff perthnasol newydd, neu unrhyw ddefnyddiwr arall y mae’r ysgol yn awyddus iddo gael hawliau gweinyddu.
Faint o aelodau staff ysgol sy'n gallu cofrestru ar gyfer 360 safe Cymru?
Nid oes cyfyngiad ar y nifer o bobl sy'n gallu cael mynediad i'r teclyn, yn wir, rydym yn annog ymagwedd tîm i ddefnyddio'r teclyn ac adolygu pob agwedd. Dim ond un defnyddiwr Gweinyddwr sydd yna ond gall gael nifer anghyfyngedig o ddefnyddwyr ychwanegol.
Sut ydw i'n cofrestru fy ysgol i ddefnyddio 360 degree safe Cymru?
Mewngofnodwch i'ch cyfrif Hwb a chlicio ar y cyswllt i 360 degree safe Cymru ar dudalen cartref Hwb.
Os yw fy ysgol/coleg mewn Ffederasiwn ag ysgolion/colegau eraill oes modd i ni gynnal adolygiad ar y cyd, yn hytrach nag adolygiadau gwahanol ar gyfer pob ysgol?
Nod yr adnodd yw cael ei ddefnyddio gan ysgolion unigol. Fodd bynnag, os yw’r polisïau a’r arferion ar draws ysgolion yn y Ffederasiwn yn unfath, efallai y byddwch am gynnal un adolygiad ar ran Ffederasiwn. I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais i greu cyfrif Ffederasiwn anfonwch e-bost at: 360safe@swgfl.org.uk. Efallai y byddwch yn awyddus i drafod hyn gyda staff cymorth diogelwch ar-lein eich awdurdod lleol.
Sut ydw i'n cychwyn gyda'r adolygiad?
Dylech glicio ar y tab "Adolygu" ac yna ar bob Elfen (ee Polisi ac Arweinyddiaeth), Llinyn (ee Cyfrifoldebau) ac Agwedd (ee Grŵp Diogelwch Ar-lein) yn ei thro i gyrraedd y dudalen adolygu agweddau. Mae yna 21 agwedd a gallwch adolygu'r rhain mewn unrhyw drefn. Ar y dudalen adolygu bydd y camau gwella yn newid yn dibynnu ar ba ddatganiad lefel rydych chi’n ei ddewis. Gallwch hefyd gael mynediad i bob agwedd yn yr adolygiad o’r graff ar yr hafan adolygu. I wneud hyn, cliciwch yr agwedd honno yn y graff lle mae’n croestorri llinell meincnod goch y Nod Diogelwch Ar-lein.
Beth ydy'r datganiadau lefel?
Mae gan bob agwedd bum datganiad lefel (5 i 1). Dylech ddewis y datganiad sy’n disgrifio darpariaeth bresennol eich ysgol/coleg orau ar gyfer yr agwedd honno. Cliciwch eich lefel ddewisol ac yna cliciwch i gadw eich ateb. Bydd yr adnodd yn mynd ymlaen at yr agwedd nesaf.
Beth ydy pwrpas y blychau testun gwag?
Gallwch ddefnyddio'r blychau testun gwag fel y mynnoch. Os ydych chi'n mynd i wneud cais am y Nod Diogelwch Ar-lein bydd gofyn i chi ddisgrifio eich darpariaeth ar gyfer pob agwedd yn y blwch testun gwag ar gyfer eich sefyllfa bresennol, gan ddangos sut mae’n cyrraedd y lefel meincnod. Gallech ddefnyddio'r blychau i gydweithio ag eraill yn yr ysgol.
Pa adroddiadau sydd ar gael?
Mae nifer o adroddiadau gwahanol ar gael i ysgolion o dan y tab Adolygu / Adrodd. Mae’r rhain yn darparu lefelau amrywiol o fanylion am eich adolygiad a hynt yr adolygiad.
Sut mae cadw adroddiadau?
I gadw eich adroddiad mae’n rhaid i chi ei argraffu neu ei allforio fel pdf a’i gadw mewn lleoliad allanol.
Ni chaiff adroddiadau eu cadw o fewn yr adnodd felly er mwyn cadw copi o adroddiad o adeg benodol, dylech ei gadw mewn lleoliad allanol.
Gallwch ddefnyddio’r adroddiad hanesyddol hefyd i weld eich cynnydd a’ch sefyllfa dros amser.
Sut gallaf i lawrlwytho'r Tystysgrif Ymrwymiad a Thystysgrif Dilyniant?
Mae logos y tystysgrifau i'w gweld ar y tudalennau adolygu - cliciwch y logo i lawrlwytho'r dystysgrif.
Beth ydy'r Marc Diogelwch?
Mae'r Nod Diogelwch Ar-lein yn gymhwyster a gaiff ei adnabod yn genedlaethol sy’n cydnabod ac yn dathlu ansawdd darpariaeth diogelwch ar-lein yr ysgol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab Achrediad.
Sut ydw i'n gwneud cais am y Marc Diogelwch?
I wneud cais, bydd angen i'r ysgol gyrraedd y lefel meincnod ar gyfer pob agwedd gan roi disgrifiad o'u darpariaeth ar gyfer pob agwedd yn y blychau testun gwag ar gyfer Sefyllfa Bresennol, Tystiolaeth a Chamau Gwella ar y tudalennau adolygu. Mae ffurflen gais ar-lein ar gael o dan y tab Achrediad.
Sut gallaf i gael cefnogaeth bellach?
Os nad yw'r Cwestiynau Cyffredin yn darparu'r ateb sydd ei angen arnoch gallwch ddefnyddio'r ffurflen “Cymorth Pellach” isod i ofyn am ragor o help.