1. Achrediad
  2. Marc Diogelwch Ar-lein

Gwybodaeth am y Marc Diogelwch Ar-lein

Marc Diogelwch Ar-leinMae ysgolion sy’n gallu dangos arferion da yn eu gweithdrefnau a’u polisïau Diogelwch Ar-lein yn gallu gwneud cais am y Marc Diogelwch Ar-lein.

Fel rhan o’r cam cyntaf i gael y marc diogelwch, bydd angen gwneud cais ar-lein i South West Grid for Learning, a chyflwyno hunanadolygiad 360 degree safe lle mae’r ysgol wedi cyrraedd y lefel meincnod o leiaf ym mhob agwedd (mae hyn i'w weld yn yr adnodd ar-lein). Mae’n rhaid i’r ysgol hefyd roi sylwadau llawn ar bob agwedd sy’n disgrifio sut mae’r ddarpariaeth ar gyfer yr agwedd honno yn cyrraedd y lefel meincnod ofynnol.

Os oes rhesymau da pam na all ysgol gyrraedd y lefel meincnod mewn unrhyw agwedd (efallai oherwydd maint neu drefn yr ysgol), rhaid egluro hyn yn fanwl yn y sylwadau ar gyfer yr agwedd honno, er mwyn i’r asesydd benderfynu a yw’r ysgol yn debygol o fod yn gymwys ai peidio ar gyfer y Marc Diogelwch Ar-lein.

Ar ôl i’r cais gael ei gyflwyno, bydd yr Asesydd yn bwrw golwg dros adnodd hunanadolygu 360 degree safe i weld a yw’n ymddangos bod yr ysgol (yn ei hymatebion) wedi cyrraedd y lefelau meincnod, ac yn barod i gael ymweliad gan asesydd.

Yna bydd un neu ddau o aseswyr yn ymweld â’r ysgol am hanner diwrnod. Bydd yr aseswyr a’r ysgol yn cytuno ar agenda'r ymweliad, ar sail agenda enghreifftiol. Bydd yr asesydd yn cwrdd ag amryw o staff, myfyrwyr / disgyblion, rhieni / gofalwyr a llywodraethwyr. Bydd hefyd yn cynnal adolygiad byr o rywfaint o dystiolaeth ar-lein / ar bapur yr ysgol (polisïau, cofnodion, logiau archwilio ac ati). Ar ddiwedd yr ymweliad, bydd yr asesydd yn dweud wrth yr ysgol a yw’r cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio. Bydd yr asesydd hefyd yn awgrymu cryfderau a gwendidau yn narpariaeth e-ddiogelwch yr ysgol. Codir ffi am yr asesiad.

Cliciwch yma i weld amserlen ddrafft ar gyfer Ymweliad gan Asesydd y Marc Diogelwch Ar-lein, ac yma i weld canllawiau ychwanegol i ymgeiswyr.

Mae’r adborth gan ysgolion sydd â’r Marc Diogelwch Ar-lein wedi bod yn gadarnhaol iawn. Cliciwch yma i weld rhestr o ysgolion sydd wedi llwyddo i gael y Marc Diogelwch Ar-lein, ac ymai weld adborth yr ysgolion hyn.

Ffioedd Asesu

Mae dwy lefel o ffioedd ar gyfer ysgolion a gynhelir:
Mae cyfradd ostyngol ar gael i ysgolion SWGfL ac ysgolion mewn awdurdodau lleol sydd â thrwydded leol 360 degree. Bydd yr holl ysgolion eraill a gynhelir yn talu’r ffi lawn:

  • Cyfradd ostyngol i ysgolion a gynhelir sydd â llai na 500 o ddisgyblion / myfyrwyr – £650
  • Ffi lawn i ysgolion a gynhelir gyda llai na 500 o ddisgyblion / myfyrwyr – £800
  • Cyfradd ostyngol i ysgolion a gynhelir sydd â 500 neu fwy o ddisgyblion / myfyrwyr – £850
  • Ffi lawn i ysgolion a gynhelir sydd â 500 neu fwy o ddisgyblion / myfyrwyr – £1,000
  • Pob Ysgol Annibynnol – £1,000

Mae’r Marc Diogelwch Ar-lein yn weithredol am dair blynedd. Ar ôl hynny, bydd angen i’r ysgol gael ei hasesu eto os yw’n dymuno dal gafael ar y dyfarniad. Bydd ffioedd yn berthnasol eto (ar y lefelau sy’n gyfredol ar y pryd).

Bydd ysgolion llwyddiannus yn cael plac wal personol y Marc Diogelwch Ar-lein, Tystysgrif y Marc Diogelwch Ar-lein a’r hawl i ddefnyddio logo’r Marc Diogelwch Ar-lein ar eu gwefan a’u papur pennawd ac ati. Byddan nhw hefyd yn cael cyfle i brynu bathodynnau’r Marc Diogelwch Ar-lein i staff eu gwisgo.

Os nad oedd yr ysgol yn llwyddiannus, bydd yr Asesydd yn rhoi gwybod i’r ysgol ai mân fylchau sydd yn ei darpariaeth, ynteu fylchau sylweddol (bydd hyn yn effeithio ar hyd a chost yr ailasesiad dilynol). Os oes bylchau sylweddol, bydd angen i’r ysgol ddilyn y broses gyfan eto, fel petai’n asesiad cyntaf.

Os mai mân fylchau sydd yn y ddarpariaeth, gall yr ysgol wneud cais am ail ymweliad asesu (byrrach) am hanner y gost uchod, lle bydd yr asesydd ond yn archwilio’r elfennau hynny a oedd yn annigonol yn yr ymweliad cyntaf.

Gallwch wneud cais ar-lein nawr

Manylion Ailasesu’r Marc Diogelwch Ar-lein

Mae’r Marc Diogelwch Ar-lein yn gyfredol am dair blynedd. Ar ddiwedd y tair blynedd, gall ysgolion wneud cais am ailasesiad – naill ai drwy ymweliad asesu llawn neu asesiad bwrdd gwaith. Dim ond unwaith rhwng ymweliadau asesu llawn y gall ysgolion wneud cais am asesiad bwrdd gwaith. Mae mwy o fanylion ar gael yma:

Manylion ffurflenni cais a threfniadau ailasesu