Cyrsiau Hyfforddiant i Aseswyr Marc Diogelwch Ar-lein gan 360 degree safe
Mae’r Adnodd Hunanadolygu Diogelwch Ar-lein gan 360 degree wedi cael ei ddatblygu gan South West Grid for Learning, ac mae dros 12,000 o ysgolion ar hyd a lled y DU wedi cofrestru â’r adnodd erbyn hyn. Cafodd fersiwn ar gyfer yr Alban ei rhyddhau yn ystod Hydref 2013, a fersiwn Gymraeg ddwyieithog ei rhyddhau ym mis Tachwedd 2014.
Mae’r data sydd ar gael yn rhoi darlun unigryw o gyflwr y ddarpariaeth diogelwch ar-lein mewn ysgolion yn y DU, ac mewn rhannau eraill o’r byd. Yn y DU, gall ysgolion sy’n cyrraedd y meincnodau gofynnol wneud cais am y Marc Diogelwch Ar-lein i gydnabod ansawdd eu darpariaeth Diogelwch Ar-lein.
Ar ôl dyfarnu Marc Diogelwch Ar-lein 360 degree safe i ysgolion ledled y wlad, gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr addas sy’n dymuno cael eu dewis / hyfforddiant fel Ymgynghorydd / Asesydd y Marc Diogelwch Ar-lein. Mae’r broses o ddod yn Asesydd wedi’i nodi isod:
Cam 1
Cyflwyno ffurflen gais yw cam cyntaf y broses hon. Ar ôl cael y ffurflen, bydd Asesydd Arweiniol yn adolygu’r cais i weld a yw’n ymddangos bod gan yr ymgeisydd yr wybodaeth a’r profiad angenrheidiol (wedi’u rhestru isod). Rhaid i ymgeiswyr gofrestru ar gyfer yr adnodd ar-lein a’i ddefnyddio’n llawn (cynnal adolygiad o ysgol neu "ysgol ffug" ar-lein).
Cam 2
Bydd ymgeiswyr sy’n llwyddo yn y cam cyntaf yn cael gwahoddiad i gwrs dethol / hyfforddiant undydd i Aseswyr. Ar y diwrnod, bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr ddangos ffurflen CRB / DBS wreiddiol a chyfredol, a darparu copi o’r ffurflen i SWGfL ei chadw ar ffeil. Bydd Aseswyr Arweiniol yn darparu hyfforddiant a gwybodaeth, ac yn ystyried a yw’r ymgeiswyr yn gymwys ac yn addas i gael eu dewis i fod yn Aseswyr Cofrestredig (mwy o wybodaeth isod).
Cam 3
Os bydd ymgeisydd yn llwyddo yn y Diwrnod Hyfforddiant, bydd yr Asesydd Cofrestredig yn cael ei gydnabod yn swyddogol a’i ddyrchafu fel Ymgynghorydd swyddogol 360 degree safe. I fod yn Asesydd Achrededig, bydd rhaid cynnal asesiad cychwynnol wedi’i gymedroli gydag Asesydd Arweiniol yn bresennol.
Cam 4
Os yw’n llwyddo, bydd yr Asesydd Cofrestredig yn dod yn Asesydd Achrededig ar ôl yr asesiad wedi’i gymedroli, a bydd ar gael i wneud ymweliadau asesu mewn ysgolion ar ei ben ei hun.
Y Cais a’r Meini Prawf
Wrth wneud cais, bydd disgwyl i ymgeiswyr ddangos y canlynol:
- Mae eu cefndir proffesiynol a’u profiad yn eu gwneud yn gymwys i wneud swydd lle byddan nhw’n ymweld ag ysgolion ac yn gwneud penderfyniadau ar bolisïau ac arferion mewn ysgolion.
- Mae ganddyn nhw brofiad helaeth ar lefel uwch ym maes addysg / hyfforddiant – mewn ysgolion neu sefydliadau addysg eraill yn ddelfrydol.
- Mae ganddyn nhw ddealltwriaeth dda o bolisïau ac arferion diogelwch ar-lein, a phrofiad o gynghori / cefnogi ysgolion i wella / datblygu polisïau ac arferion.
- Maen nhw’n llofnodi’r Cod Ymddygiad i Aseswyr ac yn cytuno i’w ddilyn, ac yn cytuno â strwythur y broses o ddethol Aseswyr a'r hyfforddiant ar eu cyfer, fel y disgrifir isod.
Ar y Diwrnod Hyfforddiant i Aseswyr, bydd disgwyl iddyn nhw ddangos y canlynol:
- Maen nhw’n deall Adnodd Hunanadolygu 360 degree safe a sut gellid ei ddefnyddio i asesu ansawdd darpariaeth diogelwch ar-lein ysgolion, ac yn helpu i wella’r ysgol. (Mae’n rhaid eu bod wedi cofrestru i ddefnyddio’r adnodd, ac wedi cwblhau adolygiad llawn o ysgol neu “ysgol ffug” ar yr adnodd o leiaf wythnos cyn i’r cwrs gael ei gynnal).
- Maen nhw’n gallu dehongli Hunanadolygiad Diogelwch Ar-lein yr ysgol, a gwneud penderfyniadau ynghylch a yw’n ymddangos bod yr ysgol wedi cyrraedd y safonau meincnod sy'n angenrheidiol er mwyn gallu ymweld â’r ysgol.
- Maen nhw’n gallu dehongli ac asesu’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod yr ymweliad â’r ysgol, a gwneud penderfyniadau ynghylch a yw’n ymddangos bod yr ysgol wedi cyrraedd y safonau meincnod sy’n angenrheidiol ar gyfer y dyfarniad.
- Mae ganddyn nhw berthynas broffesiynol ag ysgolion, SWGfL a sefydliadau ac unigolion eraill, ac yn broffesiynol wrth gysylltu â nhw. Maen nhw hefyd yn llysgenhadon da i SWGfL wrth wneud y gwaith yma.
- Mae’n ymddangos eu bod yn gallu bodloni’r gofynion sydd wedi'u nodi yn y Cod Ymddygiad i Aseswyr.
Yn ystod yr ymweliad cyntaf ag ysgol (gydag Asesydd Arweiniol ar gyfer Asesiad wedi’i Gymedroli) ac ar ôl hynny, bydd disgwyl iddyn nhw ddangos y canlynol:
- Maen nhw wedi deall Adnodd Hunanadolygu 360 degree safe a sut mae’n cael ei ddefnyddio.
- Wrth drefnu’r ymweliad â’r ysgol, maen nhw wedi gallu dehongli Hunanadolygiad Diogelwch Ar-lein yr ysgol ar yr adnodd, a gwneud penderfyniadau ynghylch a yw’n ymddangos bod yr ysgol wedi cyrraedd y safonau meincnod sy’n angenrheidiol er mwyn gallu ymweld ag ysgol.
- Maen nhw wedi gallu trefnu agenda addas â'r ysgol ar gyfer yr ymweliad.
- Maen nhw’n gallu dehongli ac asesu’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod yr ymweliad â’r ysgol, a gwneud penderfyniadau cywir ynghylch a yw’r ysgol wedi cyrraedd y safonau gofynnol er mwyn cael y dyfarniad.
- Mae ganddyn nhw agwedd a ffordd broffesiynol o gyfathrebu a datblygu cysylltiadau yn ystod yr ymweliad â’r ysgol. Maen nhw hefyd yn bodloni’r disgwyliadau yn y Cod Ymddygiad i Aseswyr.
- Maen nhw’n gallu dweud yn gywir wrth yr ysgol beth yw cryfderau’r ysgol, a beth y mae angen ei ddatblygu.
- Maen nhw wedi gwneud penderfyniad cywir, ym marn yr Asesydd Arweiniol, ynghylch a ddylai’r ysgol gael y Marc Diogelwch Ar-lein ai peidio.
- Maen nhw’n llenwi Ffurflen Adroddiad yr Ymweliad Asesu, ac yn dychwelyd y ffurflen at y Gweinyddwr o fewn pum diwrnod gwaith. Hefyd, mae’r Asesydd Arweiniol o’r farn bod y ffurflen yn adlewyrchiad cywir o’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud a’u rhannu â’r ysgol ar ddiwrnod yr ymweliad.
Cod Ymarfer i Aseswyr
Ar ddiwrnod yr hyfforddiant, mae’n rhaid i Aseswyr y Marc Diogelwch Ar-lein lofnodi Cod Ymarfer a chytuno i gadw at ei gynnwys. Bydd y Cod wedi’i gynnwys yn y ffurflen gais a’r Llawlyfr i Aseswyr.
Diwrnodau Hyfforddiant i Aseswyr
Defnyddiwch y cyfeiriad e-bost isod i gadarnhau dyddiadau a lleoliadau cyrsiau.
Os oes digon o alw, gallwn hefyd drefnu cyrsiau lleol ar gyfer sefydliadau.
Cysylltu
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi ynghylch dod yn Asesydd, cysylltwch â 360safe@swgfl.org.uk